Dyddiad yr Adroddiad

16/10/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202404816

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr H am beidio â chael apwyntiad meddygol i dynnu lwmp o’i ben. Cwynodd Mr H i’r Bwrdd Iechyd gan nodi ar frig ei lythyr ei fod yn gŵyn ffurfiol.

 

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr H wedi cael ei atgyfeirio fel claf arferol a’i fod ar restr aros ar hyn o bryd. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o gamweinyddu ynghylch ei atgyfeirio na rheolaeth y rhestr aros. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus, er bod Mr H wedi gwneud cwyn ffurfiol, nad oedd wedi cael ymateb priodol, yn hytrach cafodd ymateb generig ac allan o ddyddiad.

 

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cytuno i ymateb yn ffurfiol i gŵyn wreiddiol Mr H o fewn 20 diwrnod gwaith.