Dyddiad yr Adroddiad

22/04/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Gweithdrefnau derbyn/rhyddhau a throsglwyddo

Cyfeirnod Achos

202103131

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms X am gael ei rhyddhau o’r ysbyty ym mis Mai 2020, yn benodol, nad oedd yn addas i gael ei rhyddhau ac nad oedd yn briodol ei symud i Gartref Gofal [Y]. Cafodd Ms X ei haildderbyn i’r ysbyty ddiwrnod yn unig ar ôl iddi gael ei rhyddhau.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Ms X yn addas i’w rhyddhau – ei bod mewn poen mawr, ei bod yn fregus a bod ei symudedd a’i gallu i gyflawni gweithgareddau bywyd bob dydd yn gyfyngedig; roedd hi hefyd yn cael dialysis 3 gwaith yr wythnos. Dim ond 2 opsiwn yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi’u rhoi i Ms X – symud i’r Cartref Gofal, er nad oedd yn dymuno gwneud hynny, neu i fynd adref gyda phecyn gofal annigonol. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd yn fodlon ei hun y gallai’r Cartref Gofal ddiwallu anghenion Ms X; nid oedd yn briodol ei rhyddhau i gartref gofal na allai ddiwallu ei hanghenion ac yn erbyn ei dymuniadau. Cadarnhaodd y gŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Ms X am y methiannau a nodwyd a chynnig taliad iawndal o £500 i gydnabod y trallod a achoswyd. Argymhellodd hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd gymryd camau i atgoffa staff o bwysigrwydd cynnal asesiadau rhyddhau, cynnwys cleifion mewn penderfyniadau rhyddhau cleifion a sicrhau bod y lleoliadau y rhyddheir cleifion iddynt yn addas. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu’r argymhellion.