Dyddiad yr Adroddiad

15/08/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Gweithdrefnau derbyn/rhyddhau a throsglwyddo

Cyfeirnod Achos

202307487

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs C am y gofal a gafodd ei mam, Mrs D, gan y Bwrdd Iechyd. Ystyriodd yr Ombwdsmon a oedd rhyddhau Mrs D o’r ysbyty ar 12 Chwefror 2021, gan gynnwys ôl-ofal wedi’i gynllunio a gwaith dilynol, yn briodol o safbwynt clinigol.
Canfu’r Ombwdsmon fod cyfrif celloedd gwaed gwyn Mrs D adeg ei rhyddhau yn dal i fod yn uchel.  Fodd bynnag, roedd ei harwyddion hanfodol yn sefydlog ac nid oedd unrhyw newidiadau acíwt i’w chyflwr. Roedd hi’n briodol iddi gael ei rhyddhau; roedd hi am barhau â gwrthfiotigau drwy’r geg a gwnaed trefniadau iddi gael rhagor o archwiliadau fel claf allanol a phrofion gwaed. Nid oedd yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd drefnu unrhyw becyn gofal iddi, gan ei bod yn hunan-ofalu yn yr ysbyty ac nid oedd unrhyw reswm dros gredu na fyddai’n parhau i wneud hynny.
Canfu’r Ombwdsmon ei bod yn briodol bod y feddyginiaeth yr oedd Mrs D yn ei derbyn tra’i bod yn yr ysbyty, er mwyn lleihau’r risg o glotiau gwaed, yn cael ei hatal cyn iddi gael ei rhyddhau o’r ysbyty. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod Mrs D wedi cael gwybod am bwysigrwydd yfed digon o ddŵr a gwneud ymarferion coesau, fel yr argymhellir yn y canllawiau. Nid oedd unrhyw ffordd o wybod a fyddai yfed digon o ddŵr ac ymarferion coesau ar eu pen eu hunain wedi atal Mrs D rhag dioddef emboledd ysgyfeiniol (cyflwr difrifol a achosir gan glot gwaed yn yr ysgyfaint). Fodd bynnag, roedd y ffaith na roddwyd y cyngor hwn iddi yn golygu ei bod wedi colli’r cyfle i leihau’r risg y byddai hyn yn digwydd, ac roedd hyn yn anghyfiawnder iddi. Felly i’r graddau hyn, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd ar argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mrs C, talu iawndal ariannol iddi o £500, ac atgoffa clinigwyr perthnasol y dylid rhoi gwybodaeth briodol cyn rhyddhau cleifion sydd mewn perygl o gael emboledd ysgyfeiniol.