Dyddiad yr Adroddiad

31/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Gweithdrefnau derbyn/rhyddhau a throsglwyddo

Cyfeirnod Achos

202402775

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B ei bod wedi cyflwyno cwyn i’r Bwrdd Iechyd ym mis Gorffennaf 2023. Roedd hyn yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar dad yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a’i ryddhad buan i gartref gofal, a dywedodd ei bod wedi cyfrannu at ei farwolaeth. Nid oedd Mrs B wedi cael ymateb i’w chŵyn flwyddyn yn ddiweddarach. Roedd Mrs B eisiau i hyn gael ei gwblhau, ac ymhlith pethau eraill, i gael cyfle i siarad â staff i drafod canlyniad y gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi’r ymateb i’r gŵyn o fewn 20 diwrnod gwaith ac, fel rhan o’r ymateb hwnnw, i gynnig cyfarfod i Mrs B i drafod canlyniad y gŵyn. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ganlyniad priodol a chafodd yr achos hon ei chau ar y sail hon.