Dyddiad yr Adroddiad

13/08/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Gweithdrefnau derbyn/rhyddhau a throsglwyddo

Cyfeirnod Achos

202402433

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr T nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb i’w gŵyn ac nad oedd wedi trefnu gofal a chymorth digonol wrth ryddhau ei wraig o’r ysbyty.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mr T o fewn amserlen resymol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos a chynnig £150 o iawndal ariannol i Mr T am yr amser a’r drafferth a gymerwyd i gysylltu â’r Ombwdsmon.