Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi trosglwyddo ei ofal endocrinoleg i fwrdd iechyd arall, heb unrhyw rybudd nac esboniad. Cwynodd Mr B i’r Bwrdd Iechyd dros gyfnod o fisoedd, ond ni chafodd ymateb.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er gwaethaf nifer o geisiadau gan Mr X a chynnig cynharach gan yr Ombwdsmon, fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’w gŵyn yn unol â Gweithio i Wella, na rhoi esboniad ysgrifenedig iddo am y penderfyniad i drosglwyddo ei ofal. Bu oedi hefyd wrth ddarparu ei gofnodion. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr A o fewn 6 wythnos, i gynnig iawndal o £250 iddo am yr oedi a’r methiant i ddarparu ymateb i’r gŵyn, ac i ymateb i’w bryderon yn unol â Gweithio i Wella. Cytunodd hefyd i atgoffa pob aelod staff oedd wedi ymwneud â’r achos o ofynion adrodd am Ddigwyddiadau o Drais ac Ymddygiad Ymosodol, gan gynnwys amserlenni, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Bwrdd Iechyd.