Dyddiad yr Adroddiad

23/03/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Gweithdrefnau derbyn/rhyddhau a throsglwyddo

Cyfeirnod Achos

202207335

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am lefel yr absenoldeb ysbyty a roddwyd iddo gan ei glinigwyr, gan gynnwys yng nghyswllt lefel y risg a gyflwynodd i’r cyhoedd pan oedd ar yr absenoldeb hwnnw. Cwynodd Mr X hefyd fod yr ymateb i’w gŵyn a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd yn annigonol ac nad oedd yn egluro’n glir pam ei fod wedi gwneud y penderfyniadau a wnaeth.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ystyried ac ymateb i gŵyn Mr X yn unol â’r Cynllun Gweithio i Wella. O ganlyniad, cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 20 diwrnod gwaith, i ymddiheuro i Mr X am y methiant hwn, i gytuno ar fanylion y gŵyn yr oedd yn dymuno mynd ar ei thrywydd ac, wedi hynny, i ymchwilio ac ymateb i’w gŵyn yn unol â’r Cynllun Gweithio i Wella. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn setliad priodol ac ni wnaeth ymchwilio iddo.