Roedd Mrs Z wedi cwyno am y gofal a’r cymorth a ddarparwyd i’w diweddar frawd, Mr X, gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot (“y Cyngor Cyntaf”) a Chyngor Sir Caerfyrddin (“yr Ail Gyngor”). Cwynodd Mrs Z wrth yr Ombwdsmon nad oedd yr ymchwiliad Cam 2 annibynnol a drefnwyd gan yr Ail Gyngor, ar ran y Prif Gyngor a’r Ail Gyngor, wedi mynd i’r afael yn llawn â’i phryderon. Yn benodol, cwynodd nad oedd wedi ystyried ei chŵyn yn ddigonol nad oedd y Cyngor Cyntaf a’r Ail Gyngor wedi ymchwilio’n drylwyr i adroddiadau bod Mr X yn cael ei ynysu gan ei bartner oddi wrth ei deulu, y gymuned a gwasanaethau. Cwynodd hefyd fod canlyniad cyfarfod strategaeth diogelu a gynhaliwyd yn dilyn marwolaeth Mr X, dan gadeiryddiaeth yr Ail Gyngor, yn ddiffygiol gan y dylai fod wedi ystyried datganiadau tystion a baratowyd gan staff yr ysbyty.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor Cyntaf a’r Ail Gyngor wedi cymryd camau priodol mewn perthynas â phryderon bod Mr X yn cael ei ynysu gan ei bartner oddi wrth ei deulu, y gymuned a gwasanaethau. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod camau priodol wedi’u cymryd gan yr Ail Gyngor yn ei rôl yn cadeirio’r cyfarfod strategaeth diogelu. Gofynnwyd am wybodaeth briodol ac fe’i hystyriwyd. Ni chafodd y cwynion hyn eu cadarnhau.