Dyddiad yr Adroddiad

24/01/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Gwrthrychedd a phriodoldeb

Cyfeirnod Achos

202200739

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Derbyniodd yr Ombwdsmon atgyfeiriad bod aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bro Morgannwg (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) pan wnaeth gais am nifer o grantiau busnes.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraffau 4(b), 4(d), 6(1)(a), 7(a), 7(b), 15(1)(b) a 15(2) o’r Cod.

Ystyriodd yr ymchwiliad dystiolaeth gan y Cyngor a Swyddfa Dwyll Llywodraeth Cymru. Darparodd tystion dystiolaeth tystion. Cafodd yr Aelod ei gyfweld.

Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi anfon negesuon e-bost o’i gyfeiriad e-bost Cyngor ynghylch ceisiadau grant busnes yr oedd wedi’u cyflwyno. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y negeseuon e-bost wedi’u hanfon er budd busnes y Cyngor – cawsant eu hanfon er budd busnes personol yr Aelod a’i wraig. Wrth anfon negesuon e-bost fel swyddogion y Cyngor o gyfeiriad e-bost ei Gyngor, canfu’r Ombwdsmon hefyd y gellid dirnad gweithredoedd yr Aelod fel defnyddio ei swydd fel aelod etholedig i gael mantais iddo’i hun. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod gweithredoedd yr Aelod yn awgrymu torri paragraffau 6(1)(a), 7(a) a 7(b) o’r Cod.

Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi methu â chynnwys 2 eiddo ar ei Gofrestr Buddiannau. Roedd yr Aelod wedi derbyn hyfforddiant ar y Cod a oedd yn cynnwys hyfforddiant ar fuddiannau a chofrestru a datgan unrhyw fuddiannau o’r fath. Derbyniodd yr Aelod, ynghyd â holl aelodau eraill y Cyngor, nodiadau atgoffa cyson a rheolaidd ynghylch yr angen i ddiweddaru eu Cofrestr Buddiannau. Yn wyneb hyn, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod methiant yr Aelod i ddatgan buddiannau ar ei Gofrestr o Fuddiannau yn awgrymu torri paragraffau 15(1)(b) a 15(2) o’r Cod.

Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi methu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cyngor am feddiannaeth 1 o’i eiddo a’i fod yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod. Fodd bynnag, pan ofynnwyd i’r Aelod am y feddiannaeth, nododd yr Ombwdsmon hefyd iddo ddarparu’r dyddiad cywir pan gymerodd feddiannaeth yr eiddo. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd gweithredoedd yr Aelod yn awgrymu torri paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad.

Canfu’r ymchwiliad fod yr Aelod wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol i’r Cyngor am feddiannaeth eiddo yr oedd yn berchen arno. O ystyried bod yr Aelod wedi gwneud ymholiadau amhriodol gyda’r Cyngor am yr eiddo, o gyfeiriad e-bost y Cyngor, wrth weithredu mewn swyddogaeth breifat, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn sefydlu cysylltiad rhwng busnes preifat yr Aelod a’i rôl fel aelod etholedig. Nododd yr Ombwdsmon fod adroddiad archwilio mewnol y Cyngor wedi canfod bod gweithredoedd camarweiniol yr Aelod wedi arwain at wrthod cais am grant busnes arall. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod gweithredoedd yr Aelod yn awgrymu torri paragraff 7(a).

Yn olaf, canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod ymddygiad yr Aelod mewn perthynas â’r ceisiadau grant busnes wedi arwain at ymchwiliad archwilio mewnol a gynhaliwyd gan y Cyngor. Daeth ymchwiliad archwilio mewnol y Cyngor i’r casgliad bod yr Aelod wedi methu â darparu gwybodaeth gywir i’r Cyngor, wedi ceisio cael cyllid grant pan oedd yn amlwg nad oedd modd cyfiawnhau hawliadau, wedi methu â hysbysu neu ddiweddaru’r Cyngor o ran deiliadaeth ac felly atebolrwydd ardrethi busnes ar gyfer eiddo penodol, wedi darparu gwybodaeth anghyson wrth wneud cais am arian grant, wedi gwneud ymholiadau am grantiau ac wedi camarwain y Cyngor, ac wedi achosi i gwmni cymwys fethu â chael grant yr oedd ganddo hawl iddo. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod canfyddiadau difrifol a phryderus ymchwiliad archwilio mewnol y Cyngor wedi achosi pryderon am ymddygiad yr Aelod sy’n ymddangos yn groes i’r Egwyddorion sy’n llywodraethu ymddygiad aelodau, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Aelod ymddwyn ag anhunanoldeb, gonestrwydd, uniondeb ac er budd y cyhoedd. Fel y cyfryw, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y gallai gweithredoedd yr Aelod effeithio’n ddifrifol ar hyder y cyhoedd yn swydd yr Aelod ac roedd yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod.

Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad i Ddirprwy Swyddog Monitro’r Cyngor i’w ystyried gan y Pwyllgor Safonau lleol. Canfu’r Pwyllgor Safonau fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Ei sancsiwn oedd atal yr Aelod rhag bod yn Aelod o Gyngor Bro Morgannwg am gyfnod o dri mis.