Dyddiad yr Adroddiad

13/06/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Y Waun

Pwnc

Gwrthrychedd a phriodoldeb

Cyfeirnod Achos

202107304

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Derbyniodd swyddfa’r Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref y Waun (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.   Honnwyd bod yr Aelod wedi anfon negeseuon at unigolyn ar gyfryngau cymdeithasol yn bygwth i adrodd ar eu partner a’u rhwystro rhag cael gwaith gan y Cyngor.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaeth ganlynol y Cod Ymddygiad:

7(a) – Rhaid i aelodau beidio â, yn eu capasiti swyddogol neu fel arall, defnyddio neu geisio defnyddio eu safle yn amhriodol i roi neu i sicrhau mantais i’w hunain neu i unrhyw berson arall, neu i greu neu i osgoi anfantais i’w hunain neu i unrhyw berson arall.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd esboniad yr Aelod am ei fwriad dros anfon y neges yn un credadwy.  Gellid yn rhesymol ddehongli’r negeseuon fel bod yr Aelod yn awgrymu y byddai’n camddefnyddio ei swydd fel aelod er mwyn rhoi gŵr yr unigolyn dan anfantais.  Canfu’r ymchwiliad fod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu torri paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad.

Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor Sir.  Canfu Pwyllgor Safonau’r Cyngor fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraffau 7(a) o’r Cod Ymddygiad. Penderfynodd y Pwyllgor mai’r sancsiwn mwyaf priodol i’w gymhwyso oedd ceryddu a nododd mai dyna’r unig gosb oedd ar gael iddo o ystyried ymddiswyddiad yr Aelod o’r Cyngor.