Dyddiad yr Adroddiad

11/07/2024

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202402170

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs H bod y Feddygfa wedi methu â darparu ymateb i’w chŵyn, a wnaeth iddi ym mis Ionawr 2024.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Feddygfa wedi cydnabod y gŵyn, ei bod wedi methu â darparu ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs H a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Feddygfa i ysgrifennu at Mrs H gydag ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi cyn ymateb i’w chŵyn ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 10 diwrnod gwaith.