Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“y Cyn Aelod”) o Gyngor Cymuned Solfach (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad)
Recordiodd y Cyn Aelod fideo ohono’i hun yn cam-drin yr achwynydd ar lafar a llwythodd y fideo hwn i fyny i’w dudalen Facebook cyn ei dynnu oddi yno ychydig oriau yn ddiweddarach. Yn y fideo, gellir gweld y Cyn Aelod yn gwneud honiadau am yr achwynydd a’i ferch. Honnir hefyd iddo wneud sylwadau amhriodol; dywedodd y byddai’r achwynydd wedi marw erbyn yr etholiad nesaf a galwodd yr achwynydd yn derm difrïol. Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad y Cyn Aelod fod wedi torri amodau paragraffau 4(a), 4(b), 4(c), a 6(1)(a) o God Ymddygiad y Cyngor.
Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor gan gynnwys cofnodion yn cadarnhau bod y Cyn Aelod wedi ymddiswyddo. Cafodd tri thyst, gan gynnwys yr achwynydd, eu cyfweld.
Mewn sylwadau i’r Ombwdsmon, roedd y Cyn Aelod yn cydnabod bod y sylwadau wedi bod yn amhriodol, er iddo egluro ei sylw bod marwolaeth yr achwynydd yn sylw ar sail ei oed yn hytrach na bygythiad o unrhyw niwed corfforol. Derbyniodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyn Aelod yn bwriadu i’r cyfeiriad at farwolaeth yr achwynydd gael ei ddehongli fel bygythiad i’w fywyd. Roedd yr esboniad a roddodd yn gredadwy. Fodd bynnag, roedd y sylw’n cyfeirio at ei oedran a methodd â dangos ystyriaeth i’r egwyddor y dylai pawb gael cyfle cyfartal, beth bynnag fo’u hoed. Roedd y sylwadau hefyd yn amharchus ac roedd ei weithredoedd yn gyfystyr ag ymddygiad a allai ddwyn anfri ar ei swydd neu ei awdurdod.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod gweithredoedd yr aelod yn awgrymu torri amodau paragraffau 4(a), 4(b) a 6(1)(a).
Mae’r cyn Aelod wedi ymddiswyddo fel aelod ac ymddiheurodd yn gyhoeddus ac yn breifat am ei ymddygiad, ac mae’n ymddangos bod yr achwynydd wedi derbyn yr ymddiheuriadau hynny. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod ei weithredoedd wedi mynd i’r afael â’i ymddygiad ac na fyddai cymryd camau pellach er budd y cyhoedd.
O dan adran 69(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 2000, canfu’r Ombwdsmon nad oedd angen gweithredu yng nghyswllt y materion oedd yn destun yr ymchwiliad.