Dyddiad yr Adroddiad

01/05/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202206441

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor”) wedi torri amodau’r Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau.

Roedd yr Achwynydd yn bryderus bod yr Aelod wedi ymddwyn mewn ffordd ymosodol ac amharchus tuag ati yn ystod ymweliad safle’r Pwyllgor Datblygu ym mis Ionawr 2023. Trefnwyd yr ymweliad safle er mwyn i aelodau’r Pwyllgor Datblygu gael gwell dealltwriaeth o’r safle yn dilyn y cais a ddaeth i law yn ymwneud â’r llwybr ar gyfer traffig adeiladu. Honnwyd bod yr Aelod wedi pwyntio ei fys at yr Achwynydd, wedi mynd i mewn i’w gofod personol, ac wedi defnyddio tôn ymosodol. Honnwyd hefyd iddo alw’r Achwynydd yn “fenyw dwp”.

Casglwyd gwybodaeth berthnasol gan Swyddog Monitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a buom yn cyfweld â nifer o unigolion a oedd yn bresennol yn ystod yr ymweliad, gan gynnwys preswylydd lleol, Cynghorydd ac aelod o staff y Cyngor.

Daethom i ddeall fod yr ymweliad yn ddadleuol ei natur a bod y tensiwn yn uchel, gan fod yr ymweliad yn sensitif o’r dechrau. Ar y cyfan, roedd yn ymddangos y gallai’r Aelod fod wedi delio â materion yn well a bod ei ymddygiad wedi ymddangos yn fygythiol. Nid oedd digon o dystiolaeth i awgrymu bod yr aelod wedi defnyddio’r gair “menyw” mewn ffordd ddifrïol. Gwelsom fod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu bod amodau paragraff 4(b) o’r Cod wedi’u torri, sy’n nodi bod yn rhaid i aelodau ddangos parch ac ystyriaeth i eraill wrth gynnal busnes ar ran y cyngor.

Rhoddwyd cyngor i’r Aelod fod yn ymwybodol o’i ymddygiad yn y dyfodol, yn enwedig wrth geisio rheoli sefyllfaoedd dadleuol a sensitif, ac i fod yn ymwybodol o’i ddefnydd o iaith, a sut y gallai hyn ymddangos i eraill. Gan fod hwn yn ddigwyddiad ‘unwaith yn unig’, nid oedd yn gymesur nac o fudd i’r cyhoedd gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r mater.