Dyddiad yr Adroddiad

03/11/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Llandeilo Bertholau

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202203308

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Llandeilo Bertholau (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod Ymddygiad”).

Honnodd yr Achwynydd ei fod ef yn bersonol wedi bod yn dyst i’r Aelod yn bygwth dyrnu cyd-Gynghorydd dros ddadl am ddefnydd maes parcio lleol yn ystod cyfarfod llawn o’r Cyngor.

Cyfeiriom ein hadroddiad ar ein hymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Sir Fynwy, i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

Caiff y crynodeb hwn ei ddiweddaru yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau.