Dyddiad yr Adroddiad

04/09/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Llanedi

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202204452

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Llanedi (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).

 

Honnwyd bod yr Aelod wedi torri’r Cod, wrth fwlio ac ymddwyn yn fygythiol ynghylch gallu’r Achwynydd yn y Gymraeg, dros gyfres o ddigwyddiadau.

 

Penderfynodd yr Ombwdsmon ei bod yn briodol ymchwilio ac y dylid ystyried y paragraffau canlynol o’r Cod:

  • 4(b) – Rhaid dangos parch ac ystyriaeth tuag at eraill.
  • 4(c) – Rhaid peidio â bwlio nac aflonyddu ar unrhyw un.
  • 6(1)(a) – Rhaid peidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar eich swydd neu’ch awdurdod.

 

Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd perthnasol. Cafodd tystion, yn cynnwys yr Achwynydd, eu cyfweld. Cafodd yr Aelod hefyd ei gyfweld.

 

Roedd y dystiolaeth yn awgrymu bod yr Aelod wedi mynegi ei hun yn gadarn, yn enwedig am allu’r Cyngor i weithredu yn Gymraeg ac o ran dyfodol yr iaith. Fodd bynnag, prin oedd y dystiolaeth bod ei ymddygiad wedi’i gyfeirio’n bersonol tuag at yr Achwynydd.

 

Canfu’r Ombwdsmon fod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu torri paragraffau 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod, gan fod tystion wedi mynegi pryder ynghylch ymddygiad amhriodol yr Aelod yn ystod un o’r digwyddiadau. Roedd y dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod yr Aelod wedi rhoi argraff wael o’r Cyngor yn ystod y digwyddiad hwn.

 

Derbyniodd yr Aelod fod ei weithredoedd yn annoeth ac mae wedi ystyried sut mae ei iaith yn effeithio ar eraill. Ar ôl pwyso a mesur, o ystyried y myfyrio ar ran yr Aelod a’r ffaith ei bod yn annhebygol, o ystyried hyn, y byddai’r Pwyllgor Safonau yn gosod sancsiwn pe bai’n canfod bod y Cod yn cael ei dorri, penderfyniad yr Ombwdsmon oedd nad oedd angen cymryd unrhyw gamau yng nghyswllt y materion yr ymchwiliwyd iddynt.