Dyddiad yr Adroddiad

12/13/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch

Cyfeirnod Achos

202207150

Canlyniad

Dim tystiolaeth o dorri’r Cod

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Dinas Casnewydd (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) pan aeth at yr achwynydd ar ei dreif a’i chyhuddo o gael camera yn ei thŷ a oedd yn wynebu at ei dŷ ef.  Honnwyd bod yr Aelod wedi defnyddio ei swydd fel cynghorydd i berswadio’r achwynydd i adael iddo ddod i mewn i’w thŷ i weld a oedd camera’n bresennol.

Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a allai ymddygiad yr Aelod fod wedi torri amodau paragraffau 4(b), 4(c), a 6(1)(a) o’r Cod. Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor.  Cafodd y tystion, gan gynnwys yr Achwynydd, eu cyfweld. Cafodd yr Aelod ei gyfweld.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod fersiwn yr achwynydd a’r Aelod o’r digwyddiad yn wahanol.  Dywedodd yr Aelod nad oedd wedi cyfeirio at ei swydd fel cynghorydd. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd tystiolaeth annibynnol gan dystion, nac unrhyw fath arall o dystiolaeth, ar gael i brofi beth ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad ac, yn unol â hynny, nid oedd digon o dystiolaeth i awgrymu bod yr Aelod wedi cyfeirio at ei swydd fel cynghorydd. O ganlyniad, o ystyried nad oedd digon o dystiolaeth bod yr Aelod yn gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel cynghorydd yn ystod y digwyddiad, ni chafodd y rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Cod (gan gynnwys y gofyniad i ddangos parch ac ystyriaeth i eraill) eu dilyn. Yr unig ddarpariaeth yn y Cod sy’n berthnasol bob amser, gan gynnwys pan oedd yr Aelod yn gweithredu’n breifat, oedd y rhwymedigaeth i beidio â gweithredu mewn ffordd y gellid yn rhesymol ystyried ei bod wedi dwyn anfri ar y Cyngor a/neu swydd cynghorydd. Er i’r achwynydd roi gwybod i’r Heddlu am y digwyddiad, ni siaradodd yr Heddlu â’r Aelod am y digwyddiad ac ni chymerwyd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r mater. Yng ngoleuni hyn, canfu’r Ombwdsmon nad oedd unrhyw dystiolaeth bod yr Aelod wedi dwyn anfri ar ei swydd fel cynghorydd ac ar y Cyngor. Felly, ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael, ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi bod tystiolaeth i awgrymu bod y Cod wedi’i dorri.

Yn unol â hynny, canfu’r Ombwdsmon, o dan adran 69(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, nad oedd unrhyw dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â’r Cod.