Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir y Fflint (“y Cyngor”) a Chyngor Tref Cei Connah (“y Cyngor Tref”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Honnwyd bod yr Aelod wedi gwneud sylwadau rhywiol amhriodol i aelod o’r cyhoedd sy’n agored i niwed, ei fod wedi bwlio Swyddogion y Cyngor, wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol, wedi cam-drin ei safle o ymddiriedaeth ac wedi methu â datgan cysylltiad personol a rhagfarnus.
Ein canfyddiad, o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, oedd cyfeirio ein hadroddiad ar ein hymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, i’w ddyfarnu gan Dribiwnlys.
Canfu’r Tribiwnlys fod y Cyn Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Ei sancsiwn oedd atal yr Aelod o’r Awdurdodau Perthnasol, fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Leol 2000, am 4 mis.
Mae penderfyniad y Tribiwnlys Achos ar gael yma. Ni apeliodd yr Aelod yn erbyn y penderfyniad.