Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn gan Gyn Glerc Cyngor Tref Bwcle (“y Cyngor Tref”) fod Aelod (“yr Aelod”) o’r Cyngor wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Honnwyd bod yr Aelod wedi galw am ymddiswyddiad y Cyn Glerc mewn cyfarfod o’r Cyngor a fynychwyd gan Gynghorwyr, staff ac aelodau’r cyhoedd.
Ein canfyddiad, o dan adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, oedd bod ein hadroddiad ar ein hymchwiliad yn cael ei gyfeirio at Swyddog Monitro Cyngor Sir y Fflint i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.
Canfu’r Pwyllgor Safonau fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Ei sancsiwn oedd atal yr Aelod o’r Awdurdod Perthnasol, fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Leol 2000, am 6 mis. Gwnaeth y Pwyllgor Safonau 4 argymhelliad hefyd ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned yn Sir y Fflint.
Mae penderfyniad y Pwyllgor Safonau ar gael yma (yn saesneg yn unig) Mae’r penderfyniad hwn yn destun apêl.