Derbyniodd swyddfa’r Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Llanelli (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Honnwyd bod yr aelod wedi ymddwyn yn amhriodol yn ystod rhyngweithiad ag aelodau eraill.
Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol y Cod Ymddygiad:
- 4(a) – Rhaid i chi gyflawni eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau gan roi sylw dyledus i’r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb, waeth beth fo’u rhyw, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd.
- 4(b) – Rhaid i chi ddangos parch at eraill ac ystyriaeth ohonynt.
- 4(c) – Rhaid i chi beidio ag ymddwyn fel bwli neu harasio unrhyw berson arall.
- 6(1)(a) – Rhaid i chi beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy’n dwyn anfri ar eich swydd neu ar eich awdurdod.
Cafwyd cyfrifon tyst gan 5 unigolyn, gan gynnwys aelodau’r cyhoedd ac aelodau’r Cyngor. Canfu’r ymchwiliad fod y dystiolaeth yn awgrymu bod yr Aelod wedi defnyddio iaith wahaniaethol tuag at aelodau eraill ar 9 Chwefror 2021. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu torri paragraff 4(a) o’r Cod Ymddygiad.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod sylwadau’r Aelod a’i ddefnydd o iaith sarhaus yn ymgais i fygwth a thanseilio’r aelodau. Ystyriodd hefyd fod ymddygiad yr Aelod hefyd yn awgrymu torri paragraff 4(b) o’r Cod Ymddygiad.
Gwadodd yr Aelod fod ei weithredoedd wedi torri’r Cod Ymddygiad. Dywedodd yr aelodau eraill eu bod wedi eu tramgwyddo, eu bod yn drist ac “yn gynnwrf i gyd” yn dilyn y digwyddiad. Dywedodd tyst iddo weld un o’r aelodau eraill yn crynu ac yn ofidus. Ar ôl pwyso a mesur, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod yr Aelod wedi ymddwyn mewn ffordd a oedd yn awgrymu torri paragraff 4(c) o’r Cod Ymddygiad.
Roedd yr Ombwdsmon hefyd o’r farn y byddai’n rhesymol ystyried ymddygiad o’r fath yn un a all ddwyn anfri ar swydd neu awdurdod yr Aelod, ac roedd felly hefyd yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.
Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Sir Caerfyrddin i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.
Daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad bod yr Aelod wedi torri paragraff 4(a), 4(b) a 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad. Yn unol â hynny, penderfynodd y Pwyllgor Safonau y dylid atal yr Aelod am 1 fis a bod yn ofynnol i’r Aelod fynychu hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad.