Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod cynghorydd (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (“y Cod”). Honnwyd bod yr Aelod wedi bwlio’r Achwynydd, sef un o weithwyr y Cyngor, dros nifer o flynyddoedd, ac nad oedd wedi trin yr Achwynydd â chwrteisi a pharch. Yn dilyn ymchwiliad, roeddem o’r farn bod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu torriad o’r Cod a chyfeiriwyd ein hadroddiad ar yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, i’w ddyfarnu gan dribiwnlys.
Canfu’r Tribiwnlys fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â nifer o ddyletswyddau’r Cod. Canfuwyd bod yr Aelod wedi methu â thrin yr Achwynydd ag ystyriaeth a pharch; bod yr Aelod wedi gwneud cwynion blinderus, maleisus neu wacsaw am yr Achwynydd; roedd yr Aelod wedi bwlio/aflonyddu ar yr Achwynydd, ac roedd yr Aelod wedi ymddwyn mewn modd a wnaeth ddwyn anfri ar y Cyngor.
Penderfynodd y Tribiwnlys anghymhwyso’r Aelod rhag bod yn aelod o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr am 21 mis.