Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu darparu ymateb i’r gŵyn a wnaeth ym mis Hydref 2022.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu rhoi ymateb i Mrs X i’w chŵyn yn unol â’r weithdrefn delio â phryderon Gweithio i Wella, a oedd wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs X ac a achosodd iddi gysylltu â’r Ombwdsmon. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 3 wythnos. Hefyd, cytunodd i ymddiheuro am yr oedi a thalu iawndal ariannol o £250 i Mrs S i gydnabod yr oedi a’r angen i gysylltu â’r Ombwdsmon.