Dyddiad yr Adroddiad

03/28/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202309147

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms E fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â derbyn ei chŵyn am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar chwaer gan gredu bod y gŵyn allan o amser.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd, yn anghywir, wedi gwrthod derbyn cŵyn Ms E. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms E. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro a rhoi esboniad i Ms E am y methiannau a ganfuwyd a thalu iawndal o £50 i gydnabod ei hamser a’i thrafferth yn cwyno i’r Ombwdsmon, ac i wneud hyn o fewn pythefnos. Cytunodd hefyd i roi ymateb i’r gŵyn o fewn 12 wythnos.