Dyddiad yr Adroddiad

03/13/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202309305

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’w chŵyn a gyflwynwyd iddo’n wreiddiol gan ei diweddar ŵr yn Ionawr 2023.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a heb ei diweddaru’n rheolaidd ac ystyrlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Mrs A am fethu ei diweddaru’n rheolaidd ac ystyrlon, rhoi esboniad am yr oedi’n ymateb i’w chŵyn a chynnig talu iawndal o £150 i gydnabod ei hamser a’i thrafferth yn cwyno i’r Ombwdsmon, o fewn pedair wythnos. Hefyd, bod y Bwrdd Iechyd yn diweddaru Mrs A yn fisol nes y byddai’n ymateb i’w chŵyn.