Dyddiad yr Adroddiad

04/04/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202309975

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â darparu ymateb i’w chŵyn a wnaeth iddo ym mis Medi 2023.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Ms D, nid oedd wedi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms D i ymddiheuro am yr oedi ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.