Dyddiad yr Adroddiad

04/18/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202309990

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â darparu ymateb i’w chŵyn a wnaeth iddo ym mis Mai 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’r gŵyn ac nad oedd wedi rhoi diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Mrs D. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am y methiannau a nodwyd, cynnig iawndal o £150 i Mrs D am yr amser a’r anghyfleustra o wneud cwyn i’r Ombwdsmon, ac ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos.