Dyddiad yr Adroddiad

04/18/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202310199

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddo ym mis Awst 2023 am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w ddiweddar fam, Mrs Y. Dywedodd Mr X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am ei ymchwiliad.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb i’r gŵyn na rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn briodol i Mr X yn ystod ei ymchwiliad. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr X a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr X am yr oedi ac am fethu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo, esbonio’r rhesymau dros y methiannau hynny i Mr X, cynnig iawndal iddo o £150, a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.