Dyddiad yr Adroddiad

18/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202401018

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â darparu gofal digonol i’w mab yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth. Cwynodd Mrs X y gallai cyflyrau iechyd ei mab fod wedi cael diagnosis ynghynt pe bai wedi cael cynnig sgan 20 wythnos arall.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs X wedi codi cwyn gyda’r Bwrdd Iechyd, ond nid oedd wedi ymateb i’r gŵyn na rhoi unrhyw ddiweddariadau i Mrs X ar ôl mis Hydref 2023. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs X am y diffyg diweddariadau rheolaidd, esbonio’r oedi cyn cyhoeddi ymateb i’r gŵyn a chynnig talu iawndal o £200 iddi am ei hamser a’i thrafferth wrth wneud y gŵyn. At hynny, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.