Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’w gŵyn, a godwyd ym mis Rhagfyr 2023. Cwynodd Mr X hefyd am y diffyg diweddariadau rheolaidd a’r anghyfleustra o orfod mynd ar drywydd diweddariadau gan y Bwrdd Iechyd.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’r gŵyn yn unol â’r rheoliadau ac nad oedd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r achwynydd yn rheolaidd. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am yr oedi a’r anghyfleustra a achoswyd ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.