Dywedodd Ms A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i’w chŵyn a wnaeth iddo ym mis Medi 2024.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac nad oedd wedi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Ms A am y methiannau a nodwyd, cynnig iawndal o £150 i Ms A am yr amser a’r drafferth o wneud cwyn i’r Ombwdsmon, ac ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.