Cwynodd Ms L nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi darparu ymateb i gŵyn ei mam (Ms S), a wnaed ym mis Tachwedd 2023, ynghylch y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar ŵr.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn ac nad oedd wedi rhoi diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Ms S. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms S. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms S i ymddiheuro am y methiannau a nodwyd ac i ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.