Dywedodd Mr T nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymateb i’w gŵyn, a wnaeth ym mis Mai 2023, ynghylch y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w ddiweddar dad.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn ac nad oedd wedi rhoi diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Mr T. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mr T am y methiannau a nodwyd, cynnig iawndal o £150 i Mr T am yr amser a’r drafferth o wneud cwyn i’r Ombwdsmon, ac ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.