Cwynodd Mr J nad yw wedi cael ateb gan yr adran Orthopedig i’w gŵyn a godwyd ar 21 Mai 2023.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mr J wedi cael gwybod ar 24 Ebrill 2024 bod ymateb drafft wedi’i gwblhau ond bod angen ei gymeradwyo. Dywedwyd yr un peth wrtho ar 12 Gorffennaf ac 18 Medi. Ar 17 Hydref, dywedodd y Bwrdd Iechyd wrth yr Ombwdsmon fod yr uwch dîm yn craffu ar yr ymateb.
Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad gan fod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i ymddiheuro i Mr J am yr oedi cyn ymateb i’w gŵyn a chyhoeddi’r ymateb terfynol o fewn 20 diwrnod gwaith.