Dyddiad yr Adroddiad

15/11/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202406073

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’w chŵyn, a gyflwynwyd i’r Bwrdd ym mis Ebrill 2024, mewn perthynas â gofal ei mab.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’r gŵyn yn unol â’i broses gwyno fewnol, a’i fod hefyd wedi methu â darparu diweddariadau ystyrlon rheolaidd i Ms X. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anhwylustod i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn ac ymddiheuro am yr oedi a’r diffyg diweddariadau ystyrlon rheolaidd, o fewn 3 wythnos.