Dyddiad yr Adroddiad

17/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202406817

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms B, er gwaethaf sicrwydd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y byddai’n cael ymateb i’w chŵyn gan ei Phractis Meddyg Teulu, yr oedd y Bwrdd Iechyd yn gyfrifol amdano adeg y digwyddiadau, cafodd wybod bod ei chŵyn yn rhy hwyr.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod Ms B wedi cyflwyno cwyn i’r Bwrdd Iechyd am weithredoedd ei meddyg teulu o fewn yr amserlenni priodol a’i bod wedi cael sicrwydd y byddai’n cael ymateb. Roedd hi felly wedi dioddef anghyfiawnder pan gafodd wybod yn ddiweddarach bod ei chŵyn yn rhy hwyr. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms B ac i ymateb i’w phryderon am ei Meddyg Teulu, cyn pen chwe wythnos.