Cwynodd Mr X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’w gŵyn a gyflwynodd ym mis Mehefin 2024. Cwynodd hefyd am ddiffyg diweddariadau rheolaidd.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb yn ffurfiol i gŵyn Mr X, a’i fod wedi methu rhoi diweddariadau rheolaidd gan gydymffurfio â’i broses gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod y diffyg ymateb a diffyg diweddariadau rheolaidd wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymateb i gŵyn Mr X o fewn pythefnos. Dylai’r ymateb hefyd gynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a’r diffyg diweddariadau rheolaidd. Hefyd, dylid cynnig taliad o £100 i wneud iawn am yr oedi, y diffyg diweddariadau, ac am yr angen i gysylltu â’r Ombwdsmon.