Dyddiad yr Adroddiad

19/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202408416

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddo ym mis Gorffennaf 2024.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn nac wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mrs X yn ystod ei ymchwiliad, ac roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs X, ac i esbonio’r rhesymau dros yr oedi, i ymateb i’r gŵyn, ac i gynnig iawndal o £100 i Mrs X o fewn 4 wythnos.