Dyddiad yr Adroddiad

18/06/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202401474

Canlyniad

Early resolution

Cwynodd Mr H nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb i gŵyn a wnaeth iddo ym mis Tachwedd 2023.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi darparu rhai diweddariadau i Mr H, ond bu oedi wrth ymateb i’w gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr H a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Fe wnaeth yr Ombwdsmon geisio a chael cytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr H am yr oedi cyn ymateb iddo ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn iddo o fewn pythefnos.