Dyddiad yr Adroddiad

04/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202402008

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaeth iddo ym mis Ionawr 2024 a bu’n rhaid iddi fynd ar ei ôl am ddiweddariadau.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi siarad â Mrs B dros y ffôn ym mis Ionawr, bu oedi cyn i’r Bwrdd Iechyd ddarparu ymateb ysgrifenedig i’r gŵyn. Roedd y Bwrdd Iechyd hefyd wedi methu â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mrs B yn briodol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs B a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs B, esbonio’r rheswm/rhesymau dros yr oedi, cynnig taliad iawndal o £100, a chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.