Dyddiad yr Adroddiad

23/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202402236

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu ag ymateb i’w chwynion, cyflwynwyd y cyntaf ym mis Gorffennaf 2023 a’r ail ym mis Ionawr 2024.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r gŵyn gyntaf ond canfu nad oedd ymateb wedi’i gyhoeddi mewn perthynas â’r ail gŵyn ac er bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu diweddariadau, nid oeddent wedi bod yn rheolaidd. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms X am yr oedi a’r diffyg diweddariadau, i dalu iawndal o £50 i Ms X am y methiannau a nodwyd ac i gyhoeddi ymateb i gŵyn o fewn 3 wythnos.