Dyddiad yr Adroddiad

07/08/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202403374

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Dywedodd Miss L nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb i’w chŵyn a wnaeth iddo ym mis Chwefror 2024.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w chŵyn ac nad oedd wedi rhoi diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss L. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Miss L i ymddiheuro am y methiannau a nodwyd ac i ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.