Dyddiad yr Adroddiad

15/08/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202403681

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Dywedodd Ms K nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ymateb i’w chŵyn, a wnaeth ym mis Rhagfyr 2023, ynghylch y driniaeth a roddwyd i’w diweddar fam.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Ms K ac nad oedd wedi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms K. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Ms K am y methiannau a nodwyd ac i gynnig iawndal o £150 i Ms K am yr amser a’r drafferth o wneud cwyn i’r Ombwdsmon, a hynny o fewn pythefnos. Cytunwyd ymhellach y byddai’n ymateb i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.