Cwynodd Ms H na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymateb i’w chŵyn a wnaed yn wreiddiol gan ei diweddar fam i’r Bwrdd Iechyd ar 12 Ionawr 2024.
Canfu’r Ombwdsmon na wnaeth y Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Ms H. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ysgrifennu at Ms H yn rhoi ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn, cynnig talu £75 i Ms H am yr amser a’r drafferth o wneud cwyn i’r Ombwdsmon, ac ymateb i’r gŵyn o fewn pedair wythnos galendr, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.