Dyddiad yr Adroddiad

27/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202404482

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymateb i’w chŵyn ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w ddiweddar fam, a gyflwynwyd iddo ym mis Medi 2022.

 

Penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi sylweddol cyn ymateb i’r gŵyn, a achosodd ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn, ymddiheuro am yr oedi a’r anghyfleustra a achoswyd, a gwneud taliad o £100 (o fewn tair wythnos) i wneud iawn am yr oedi a’r angen i gysylltu â’r Ombwdsmon, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.