Dyddiad yr Adroddiad

17/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202404058

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ymateb i’w gŵyn ynglŷn â’r gofal a gafodd ei dad.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr X yn rheolaidd, ond na wnaeth ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn, ysgrifennu at Mr X yn rhoi ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi, a chynnig talu £50 i wneud iawn am yr amser, y drafferth, a’r angen i gysylltu â’r Ombwdsmon, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.