Dyddiad yr Adroddiad

22/10/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202202168

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr B am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w ddiweddar fam, Mrs A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Yn benodol, roedd yr ymchwiliad yn ystyried:

a) A oedd triniaeth Mrs A ar gyfer emboledd ysgyfeiniol (“Pulmonary Embolism / PE” – cyflwr difrifol a achoswyd gan glot gwaed yn yr ysgyfaint) rhwng 9 Rhagfyr 2020 a 27 Ionawr 2021 yn briodol?
b) A oedd hi’n rhesymol i Mrs A fod wedi cael ei rhyddhau o’r ysbyty ar 15 Rhagfyr 2020?
c) A oedd hi’n briodol i Mrs A fod wedi cael ei thrin ar ward COVID-19 ar ôl iddi gael ei derbyn ar 4 Ionawr 2021, ac a gafodd yr holl fesurau rheoli heintiau rhesymol eu gweithredu?

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i Mrs A gan y Bwrdd Iechyd rhwng 9 Rhagfyr 2020 a 27 Ionawr 2021 yn briodol. Roedd hyn yn cynnwys y driniaeth ar gyfer PE, y penderfyniad rhyddhau ar 15 Rhagfyr 2020 a’r driniaeth a gafodd Mrs A ar ôl iddi gael ei derbyn i ward ar 4 Ionawr 2021. Cadarnhawyd cwyn c) i’r graddau cyfyngedig y bu methiant i gofnodi’r rhesymau dros y penderfyniad i dderbyn Mrs A i’r ward er ei bod wedi’i chau oherwydd achosion o COVID. Roedd hyn yn golygu na allai’r Ombwdsmon benderfynu a oedd y penderfyniad yn briodol, ac roedd hynny’n anghyfiawnder i Mr B.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr B am y methiannau a nodwyd ac i gymryd camau i sicrhau bod y rhesymeg benodol dros unrhyw benderfyniadau i dderbyn cleifion i wardiau sydd wedi’u cau oherwydd brigiad wedi’i chofnodi’n glir yn nodiadau’r claf yn y dyfodol.