Dyddiad yr Adroddiad

21/04/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202108105

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X ei bod yn anhapus ag ymateb cyntaf y Bwrdd Iechyd yn 2020 a bod ganddi bryderon pellach i’w trafod. Er gwaethaf sawl e-bost a galwadau ffôn, nid oedd Mrs X wedi derbyn ymateb i’w phryderon pellach er bod y Bwrdd Iechyd wedi addo gwneud hynny.

Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd Mrs X wedi derbyn ymateb i’w phryderon ychwanegol eto a chysylltodd â’r Bwrdd Iechyd. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymateb i Mrs X erbyn 9 Mai 2022. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i roi taliad ex-gratia o £100 i Mrs X am yr amser y mae wedi aros am ymateb. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Mrs X.