Dyddiad yr Adroddiad

10/02/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202205450

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Yn Awst 2020, cwynodd Mr X i’r Bwrdd Iechyd am y llawdriniaeth a dderbyniodd yn 2019. Roedd y Bwrdd wedi ymateb yn ffurfiol ym mis Hydref 2020, ond teimlai Mr X fod y pryderon a gododd wedi eu cam-ddeall. Felly ysgrifennodd lythyr pellach ar 14eg Hydref 2020 yn nodi’r pryderon oedd heb eu hateb. Cwynodd Mr X i’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’r llythyr hwnnw.

Nododd yr Ombwdsmon, cyn i Mr X gyflwyno ei gŵyn, fod y Bwrdd Iechyd wedi’i hysbysu ar 21ain Hydref 2022 fod cwyn Mr X wedi disgyn drwy’r rhwyd oherwydd ei bod ond wedi’i chofrestru ar hen system Datix y Bwrdd Iechyd ac nid ar y system RLDatix newydd. Roedd y Bwrdd Iechyd hefyd wedi sicrhau Mr X eu bod wrthi’n ymchwilio i’w bryderon oedd heb eu hateb. Yn lle ymchwilio i’r gŵyn, penderfynodd yr Ombwdsmon wneud argymhellion ac fe gytunodd y Bwrdd Iechyd i’w gweithredu.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ysgrifenedig i lythyr Mr X dyddiedig 14eg Hydref 2020; egluro’r rhesymau am yr oedi; a chynnig ymddiheuriad. Byddai’r camau hyn yn cael eu cwblhau o fewn 30 diwrnod gwaith.