Cwynodd Ms Y am y gofal a’r driniaeth a gafodd pan oedd yn glaf mewnol yn Uned Mamolaeth Ysbyty Gwynedd ym mis Ionawr 2022. Cwynodd Ms Y nad oedd neb yn gwrando ar ei barn a’i dymuniadau, bod ei hawl i ddewis wedi’i hanwybyddu, nad oedd wedi’i pharatoi’n ddigonol ar gyfer esgor a’i bod wedi trefnu’n amhriodol i gael ei hysgogi. Cwynodd Ms Y hefyd nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn yn mynd i’r afael â hyd a lled ei phryderon yn llawn a dywedodd yn anghywir ei bod yn fodlon â’r datrysiad y cytunwyd arno.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd barn a dymuniadau Ms Y yn cael eu parchu yn ystod ei chyfnod esgor a bod ei hawliau i ddewis yn cael eu hanwybyddu. Felly roedd cafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei chadarnhau. Fodd bynnag, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad ei bod yn glinigol briodol trefnu i Ms Y gael ei hysgogi ac felly ni chafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei chadarnhau. Yn olaf, canfu’r ymchwiliad nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn rhoi sylw llawn i gŵyn Ms Y ac nad oedd yn unol â’r canllawiau. Felly cafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei chadarnhau.
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cytuno i ymddiheuro i Ms Y am y methiannau a nodwyd a thalu iawndal o £1,250 i Ms Y. Mae hefyd wedi cytuno i rannu adroddiad yr ymchwiliad â’r staff perthnasol, gan gynnwys yr Ymgynghorydd, adolygu ei hyfforddiant i staff perthnasol o ran parchu dymuniadau cleifion, ac adolygu sut mae’n delio â chwynion yn yr achos hwn er mwyn nodi pwyntiau dysgu.