Cwynodd Ms A am y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd â’i chŵyn ynghylch materion a brofodd tra oedd ei Modryb, Mrs B, yn yr ysbyty. Yn ei chŵyn i’r Ombwdsmon, cododd bryderon ynghylch prydlondeb ymateb y Bwrdd Iechyd; anghysondeb gydag amser marwolaeth ei Modryb; a materion cyfathrebu.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus pan welodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb i’r gŵyn o fewn yr amserlen y cytunwyd arni. Nododd hefyd fod materion y gallai’r Bwrdd Iechyd roi sylw pellach iddynt er mwyn datrys y gŵyn. Yn lle ymchwilio i’r gŵyn, gwnaeth yr Ombwdsmon argymhellion y cytunodd y Bwrdd Iechyd i’w rhoi ar waith.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A am yr oedi cyn darparu ymateb; ailedrych ar y cofnodion meddygol i egluro’r pryderon am amser marwolaeth Mrs B; ac egluro unrhyw gamau a gymerwyd o ran y wefan a negeseuon ffôn awtomataidd. Byddai’r holl gamau hyn yn cael eu cymryd o fewn 20 diwrnod gwaith.