Dyddiad yr Adroddiad

10/03/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202206409

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr N wrth yr Ombwdsmon (drwy eiriolwr ei Gyngor Iechyd Cymuned) am ymateb y Bwrdd Iechyd i’w bryderon ynghylch ei ddulliau cyfathrebu am gyflwr dirywiol ei wraig (Mrs N), a’i fod wedi methu ei gweld cyn ei marwolaeth ar 9 Chwefror 2022. Roedd hefyd yn poeni bod Mrs N wedi cael dos dwbl o feddyginiaeth steroid.

Canfu’r Ombwdsmon na ellid cyflawni unrhyw beth arall yng nghyswllt camgymeriadau cyfathrebu a bod Mr N wedi methu gweld ei wraig. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro am hyn ac wedi cymryd camau cywiro. Ystyriwyd bod hyn yn ddigonol. Ni chanfu’r Ombwdsmon ychwaith unrhyw dystiolaeth bod dos dwbl o feddyginiaeth steroid yn cael ei roi i Mrs N. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn poeni am ddulliau cyfathrebu’r Bwrdd Iechyd ynghylch cwyn Mr N, a gyflwynwyd ym mis Mehefin 2022. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod ddwywaith o’r blaen bod ymateb yn cael ei ddrafftio. Dywedodd wedyn ym mis Medi 2022 nad oedd yn ymwybodol bod cwyn wedi cael ei chyflwyno, a arweiniodd at oedi. Gofynnwyd i’r Bwrdd Iechyd am ddiweddariad ar 6 achlysur arall cyn i ymateb gael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2022.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr N am yr wybodaeth anghywir gychwynnol a ddarparwyd ynghylch ei gŵyn a’r methiant dilynol i ymateb i geisiadau am ddiweddariadau, o fewn 10 diwrnod gwaith.